Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission

NAFWC 2011 (Papur 3 Rhan 1)
Strategaeth cyllideb ddrafft y Comisiwn

 

Dyddiad:     14 Gorffennaf 2011
Amser:        12:00-14:00
Lleoliad:      Ystafell Gynadledda 4B
Enw a rhif cyswllt yr awdur: Claire Clancy, estyniad 8233

Strategaeth cyllideb ddrafft y Comisiwn

1.0       Diben a chrynodeb o’r prif faterion

1.1.     Yn y cyfarfod ar 29 Mehefin, dechreuodd y Comisiynwyr ystyried eu strategaeth cyllideb ar gyfer 2011-16. Gofynnodd y Comisiynwyr am bapur wedi’i seilio ar weithgaredd er mwyn deall yn well beth a ellid ei gyflawni gyda rhagor o adnoddau.

1.2.     Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg o ddwy sefyllfa bosibl:

(i)           Canlyniadau parhau â’r strategaeth cyllideb flaenorol (Atodiad 1)

(ii)          Gwelliannau y byddai modd eu gwneud pe byddai gennym gyllideb fwy (Atodiad 2).

2.0       Argymhellion

2.1.     Gofynnir i’r Comisiwn nodi’r cyfeiriad ar gyfer y llwybr cyffredinol y mae am ei ddilyn o ran y gyllideb a lefel y cydbwysedd y mae’n ei ffafrio rhwng gwelliannau/twf a chost.  Yna gwneir gwaith manwl dros yr haf a’i gyflwyno i’r Comisiwn ar gyfer ei ystyried ym mis Medi.

3.0       Goblygiadau ariannol

3.1.     I aros yn ein hunfan yn unig, byddwn angen ein cyllideb bresennol, a chostau ychwanegol anochel o £1.8m.

3.2.     Byddai twf yn arwain at gostau ychwanegol, y byddai angen eu hariannu drwy adnoddau ychwanegol neu arbedion (trwy wneud pethau’n fwy effeithlon a/neu leihau gwariant mewn rhai meysydd)

3.3.     Y goblygiadau ariannol ar gyfer y rhestr gyflawn o welliannau a nodwyd yn Atodiad 2, a fyddai’n cael eu cyflwyno’n gynyddrannol dros y tair neu bedair blynedd nesaf, fyddai:

·         ar gyfer 2012-13, cynnydd yn y gyllideb o £2.8m (8.8 y cant) ar y gyllideb bresennol ar gyfer gwasanaethau’r Cynulliad.

·         hyd at £1m  bob blwyddyn a fyddai’n golygu y byddai’r gyllideb ar gyfer 2014-15 hyd at £5m yn uwch na’r flwyddyn bresennol.

·         o fewn y berthynas 0.2 y cant arfaethedig â Bloc Cymru.

3.4.     Byddai’r Comisiwn yn adolygu’r strategaeth cyllideb fel rhan o broses pennu’r gyllideb flynyddol

 

6 Gorffennaf 2011


Y sefyllfa gyffredinol os byddwn yn parhau â’r strategaeth cyllideb flaenorol

1.  Mae’r strategaeth a nodwyd yn 2010 yn gwneud cyllideb y Comisiwn am wasanaethau’r Cynulliad yn gydnaws â newidiadau canrannol ym mloc Cymru. Byddai cadw’r strategaeth hon yn golygu ein bod yn cael yr un swm o arian am y ddwy flynedd nesaf yn fras. Rydym, serch hynny’n wynebu’r codiadau anochel a ganlyn yn ein costau:

2.     Byddai rhagor o godiadau anochel ar gyfer costau cynyddrannol ac effaith chwyddiant yn dilyn dros y blynyddoedd nesaf, ynghyd ag unrhyw wariant newydd a fyddai’n ofynnol ar gyfer prosiectau buddsoddi neu i adnewyddu contractau.  Nid oes darpariaeth ar gyfer ariannu codiad cyflog i staff y Cynulliad pan fydd y trefniadau presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2012.

3.     Byddai’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o dalu am y prinder arian cyffredinol bob blwyddyn. Byddai’n rhaid gwneud hyn drwy ail-ddyrannu adnoddau presennol. Yr opsiynau fyddai:

4.     Byddai cyfrifoldebau statudol y Comisiwn yn parhau i gael eu cyflawni – byddai busnes ffurfiol y Cynulliad yn digwydd: byddai pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn yn cyfarfod, byddai deddfu, byddai’r broses o bennu cyllidebau’n digwydd. Byddai swm ac ansawdd y cymorth a fyddai’n cael ei ddarparu i Aelodau’n gostwng, fodd bynnag, a byddai ein dyheadau sy’n batrwm i’w gopïo gan eraill, yn dioddef. Mae’r pwyllgorau yn un enghraifft.  Ar hyn o bryd, mae gan bob pwyllgor hawl i gael clerc a thîm cysylltiedig, sydd wedi’i neilltuo fel arfer i un neu ddau bwyllgor. Mae hyn eisoes yn adnodd sydd ar lefel is na’r hyn a ddarperir yn Senedd yr Alban (lle mae gan bob pwyllgor ei dîm ei hun, ac mae pob un ohonynt yn gymaint o faint, os nad yn fwy nag un o’n timau aml-bwyllgorau ni) neu San Steffan (lle y bydd tîm wedi’i neilltuo o oddeutu chwech o staff yn cefnogi Pwyllgor Dethol, sydd ar lefel cyfatebol neu uwch na’r lefelau yma).  Dros y pedair blynedd nesaf, effaith y gostyngiadau mewn termau real a ragwelir yn y strategaeth cyllideb bresennol yw y byddai’r adnoddau hyn yn cael eu taenu’n deneuach rhwng pwyllgorau.

5.     Mae’n debygol mai’r canlyniadau eraill o ran Busnes y Cynulliad fydd:

6.     Y canlyniadau tebygol o ran cymorth i’r Cynulliad mewn meysydd eraill fydd:


Gwelliannau y byddai modd eu hystyried gyda rhagor o arian

1.     Ni fydd pob gweithgaredd ychwanegol yn rhai dewisol.  Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng rhai gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn a niferoedd a hyd Cyfarfodydd Llawn a phwyllgorau. Ymhlith y gwasanaethau hyn mae cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg, cofnod y trafodion, cymorth TGCh pwrpasol yn y Cyfarfod Llawn gan dîm TGCh y Comisiwn ei hun a chan gontractwyr allanol, diogelwch, ymdrin ag ymwelwyr a chofnodi /darlledu. Hefyd bydd sefyllfa gyfansoddiadol newydd y Cynulliad a disgwyliad yr Aelodau’n creu mwy o alw am gymorth gan staff y Comisiwn o’i gymharu â Chynulliadau blaenorol. Mae staff y Swyddfa Gyflwyno yn nodi cynnydd yn eu gweithgaredd am fod gennym dair gwrthblaid erbyn hyn a’r llywodraeth heb fod â mwyafrif cyffredinol.  Mae aangen digon o adnoddau arnom i fod yn hyderus ein bod diwallu’r gofynion cynyddol hyn.

2.     Gellid osgoi toriadau sy’n deillio o bwysau cost yn unig (fel y nodir yn Atodiad 1) a chynnal lefelau gwasanaethau.  Byddwn yn chwilio’n gyson am economi ac effeithiolrwydd yn y modd y byddwn yn darparu gweithgareddau fel rhan o’r ymdrech i sicrhau effeithiolrwydd cyffredinol gwasanaethau’r Cynulliad.

Twf

3.     Mae gweddill y papur hwn yn nodi gwelliannau posibl mewn pedwar maes gweithgaredd ac mae’n dangos amcangyfrif o’r costau ychwanegol y flwyddyn pe baent yn cael eu gweithredu’n llawn:

·         cynyddu busnes y Cynulliad a gwaith rhyngwladol;

·         gwella technoleg a buddsoddi er mwyn gwneud arbedion;

·         dod yn arweinydd ym maes cydraddoldeb, cynaliadwyedd, gwasanaethau dwyieithog a chyflogwr o ddewis; a

·         buddsoddi yn ystad y Cynulliad, diogelwch a chaffael gwell.

Cynyddu busnes y Cynulliad a gwaith rhyngwladol (gwariant ychwanegol posibl £1.3m y flwyddyn pan fyddai ar waith yn llawn)

Pwyllgorau

4.     Byddai’n bosibl:

Er enghraifft, byddai’r Pwyllgor Cyllid yn cael cymorth arbenigwr cyllid cyhoeddus a fyddai’n canolbwyntio’n unig ar ddarparu data a chyngor angenrheidiol i’r Pwyllgor er mwyn dadansoddi’r gyllideb a dwyn y llywodraeth i gyfrif am ddefnyddio arian o’r Gronfa Gyfunol. Byddai’r gefnogaeth honno wedi’i chanoli ar y Pwyllgor, heb fod yn gyfrifol hefyd am fathau eraill o waith fel y maent ar hyn o bryd.  Byddai modd i ni ymestyn ein cymorth i bwyllgorau fel y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Deisebau, sy’n cael cymharol ychydig o gymorth mewnol ar hyn o bryd;